Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-09-11 papur 2

 

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru – Tystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

 

 

Ymateb i ymchwiliad i pholisi ynni a chynllunio yng Nghymru

 

1.       Ein Swyddogaeth mewn Polisi Ynni a Chynllunio

 

Mae gennym ni ddwy swyddogaeth mewn polisi ynni a chynllunio:

 

Fel Ymgynghorydd

Fel ymgynghorydd i’r Llywodraeth, rydyn ni’n dylanwadu ac yn cyfrannu at ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio.

 

Rydyn ni hefyd yn ymgynghorai statudol ac anstatudol yn y system cynllunio gofodol.  Rydyn ni’n cynnig cyngor amgylcheddol ar gynigion arwyddocaol, cenedlaethol ynghylch seilwaith, cynlluniau datblygu awdurdodau lleol a chynlluniau cynllunio ar gyfer safleoedd penodol.  

 

Ein prif swyddogaeth yw sicrhau fod y corff sy’n penderfynu (fel arfer, yr Awdurdod Cynllunio Lleol neu’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith) yn deall goblygiadau amgylcheddol datblygiad arfaethedig gydol ei oes.  Swyddogaeth y corff sy’n penderfynu yw cydbwyso’r costau a’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.  

 

Rheoleiddiwr

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio (gan gynnwys caniatáu)

·       Gosodiadau diwydiannol, ynni, gwastraff ac amaethyddol

·       Gollyngiadau i, ac echdyniadau o, ddŵr wyneb a dŵr daear

·       Y defnydd o sylweddau ymbelydrol

 

Rydyn ni hefyd yn gweinyddu ac yn rheoleiddio System Masnachu Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd a Chynllun Effeithiolrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon (CRC).

 

Rydyn ni eisiau llwyddo i gael y canlyniadau gorau o'n swyddogaethau cynllunio a thrwyddedu a chefnogi datblygu cynaliadwy drwy gynnig cyngor clir, cyson a phrydlon i'r rhai sy'n penderfynu ar ran ein cwsmeriaid, yn fusnesau ac yn awdurdodau lleol.

 

Yn seiliedig ar ein profiad fel ymgynghorydd a rheoleiddiwr, rydyn ni o'r farn fod yna ddau beth a allai wellai'r system cynllunio:

 

2.           Cynllun Seilwaith Cenedlaethol

 

Rydyn ni’n awgrymu y dylid rhoi rhagor o ystyried i osod seilwaith ynni yn y lleoedd iawn ar gyfer diwydiant, cymunedau a'r amgylchedd.   Ond dyw’r system bresennol ddim bob amser yn cyflawni hyn.     

 

Mae Cymru angen system a fydd yn caniatáu ystyried lleoliad ac effeithiau amgylcheddol ar raddfa Cymru gyfan h.y. system o benderfynu rhagweithiol a strategol i gael y lleoliad cywir.   Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ardaloedd chwilio strategol ar gyfer cynhyrchu trydan o wynt oddi ar y lan, does yna ddim, ar hyn o bryd, gynllun gofodol cyffredinol sy'n ystyried pob math o seilwaith, gan gynnwys ynni.  Gadewir i’r farchnad, felly, ddewis lleoliadau.  Gallai hyn arwain at golli cyfleoedd.   Gellir gweld hyn pan fo lleoliad yn gwneud defnyddio gwres a thrydan cyfun yn anfforddiadwy neu’n amhosibl neu fod datblygiadau’n cael eu gosod mewn mannau anaddas, er enghraifft lle mae perygl llifogydd.   

 

Y manteision

Gallai Cynllun Seilwaith Cenedlaethol helpu gwireddu polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau cynaliadwy a newid hinsawdd drwy sicrhau fod gan Gymru'r gymysgedd iawn o ynni.  I’w helpu i gyrraedd hyn, byddai'n rhaid cael tystiolaeth amgylcheddol, megis drwy Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol Llywodraeth Cymru a chynlluniau a strategaethau eraill, megis y Cynlluniau Morol sy'n cael eu datblygu.   

 

I fod o gymorth i fusnesau a diwydiant benderfynu lle i ddatblygu, dylai’r Cynllun Seilwaith Cenedlaethol nodi lle mae’r amgylchedd wedi cyrraedd, neu bron â chyrraedd, ei gallu amgylcheddol neu ei therfyn cyfreithiol o ran amddiffyn yr amgylchedd.  Byddai nodi'r mannau hyn yn helpu i arwain datblygiadau i leoliadau mwy addas yng Nghymru lle nad oes gymaint o gyfyngiadau.   Byddai’n yn dangos yn glir i fusnesau a diwydiant pa fannau sy’n addas ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad a byddai, felly, yn rheoli disgwyliadau.   Byddai hefyd yn rhoi syniad o’r problemau a fyddai'n debygol o godi mewn gwahanol fannau ac felly pa mor hir a faint fyddai’n ei gostio i gael y gwahanol ganiatadau angenrheidiol.  

 

Dylai hefyd helpu manteisio ar y cyfleoedd a fyddai ar gael.  Er enghraifft, drwy osod cyfleusterau gwastraff neu biomas lle gellid defnyddio'r ynni a fyddai, fel arall, yn cael ei wastraffu, er budd y gymuned leol (er enghraifft, gwres a thrydan cyfun).

 

Ni ddylai unrhyw un sector gael ei ffafrio na’i gosbi’n ormodol.   Dylai’r Cynllun Seilwaith Cenedlaethol geisio nodi ‘ardaloedd cadw draw'.   Dylai:

 

 

Dewis posibl:Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynhyrchu Cynllun Seilwaith Cenedlaethol.   Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod ei Gynllun Seilwaith Cenedlaethol yn cael ei gynnwys fel ystyriaeth bennaf yn Natganiadau Polisi Cenedlaethol y DU.  Byddai hynny’n golygu y byddai'n rhaid i benderfyniadau Comisiwn Cynllunio Seilwaith y DU dalu sylw llawn i’r Cynllun Seilwaith Cenedlaethol.

 

 

Beth ydym ni'n ei wneud?

O’n safbwynt ni, mae goblygiadau amgylcheddol allweddol datblygiadau yn cael eu sylweddoli a’u hystyried yn rhy hwyr yn y broses o ddewis safleoedd.  Gallai hyn arwain, neu roi’r, argraff fod yr amgylchedd yn rhwystr i ddatblygiadau oherwydd, unwaith y nodir y dewis a ddymunir, mae’n anodd troi’n ôl i liniaru’r effeithiau amgylcheddol.   

 

Mae angen i ni felly, sicrhau fod busnesau a diwydiant yn talu sylw llawn i’r amgylchedd wrth ystyried datblygu Cynllun Rheoli Seilwaith.  Fel y nodwyd eisoes, dylai hyn ddigwydd yn ddelfrydol pan fo datblygwyr yn chwilio am safleoedd.  Gallai Cynllun Seilwaith Cenedlaethol wneud hyn yn haws, ond hebddo, gellid sicrhau ystyriaeth gynnar drwy weithio'n well gyda'r cyfundrefnau cynllunio a chaniatau presennol.     I helpu’r broses, rydyn ni’n datblygu ar hyn o bryd gyfres o nodiadau canllawiau i sectorau penodol ar gyfer y gweithgareddau y byddwn ni'n eu caniatáu o dan Drwyddedu Amgylcheddol, i helpu ystyried ceisiadau cynllunio.   Bydd y rhain yn cynnwys:

 

Bydd y rhain yn dangos y ffactorau lleol allweddol a fydd yn dylanwadu ar:

 

Rydyn ni o'r farn y byddai’r canllawiau o ddefnydd wrth baratoi’r Cynllun Seilwaith Cenedlaethol.  

 

Yn absenoldeb Cynllun Seilwaith Cenedlaethol, rydym yn bwriadu defnyddio’r canllawiau uchod wrth ymateb i ymgynghoriadau cynllunio.  Efallai y bydd yn rhaid gwneud hyn cyn derbyn cais am Drwydded Amgylcheddol.  Bydd ein hymateb i ymgynghoriad cynllunio yn debygol o fod yn fwy cynhwysfawr os byddwn wedi cael yr wybodaeth amgylcheddol berthnasol sydd mewn cais am Drwydded Amgylcheddol.   Byddai hyn yn rhoi’r dewis o redeg prosesau cynllunio a thrwyddedu arwahan, ond yr un pryd, ar gyfer rhai datblygiadau risg uchel neu gymhleth.

 

3.           Rhedeg y Prosesau Cynllunio a Thrwyddedu yr un Pryd

 

Yn ogystal â bod angen caniatâd cynllunio, mae’n bosibl y bydd seilwaith ynni newydd angen trwydded amgylcheddol gennym ni cyn y gall weithredu.   Gall y datblygwr benderfynu ar amseru’r ceisiadau ar eu cyfer, ac fe allan nhw fod yn ddilynol neu’r un pryd.

 

Rydyn ni o’r farn y byddai i o fudd i ddatblygwyr sy'n ystyried gweithgareddau risg uchel a chymhleth ymgeisio am ganiatâd cynllunio a thrwydded amgylcheddol yr un pryd.  Byddai hyn yn gwneud y broses benderfynu yn gliriach ac yn fwy tryloyw i’r rhai sy’n penderfynu ac i’r cyhoedd.    I’r cyhoedd, byddai’n dangos yn glir beth all y ddwy broses eu hystyried.

 

O safbwynt datblygwr, byddai cynnal y ddwy broses yr un pryd yn gallu arwain at ymgynghori ar y cyd i gyfarfod gofynnon asesiad effeithiau amgylcheddol cynllunio ac ystyriaethau trwydded amgylcheddol.  Byddai hynny’n lleihau costau a’r amser mae’n ei gymryd i gael y gwahanol drwyddedau.

 

Dewis posibl: Bod Llywodraeth Cymru’n ystyried disgrifio’r sefyllfaoedd hynny pan fydd yn rhaid i ddatblygwr gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio a thrwydded amgylcheddol yr un pryd.  

 

 

Dyddiad: 23 Medi 2011